Mae gan Richard Heavers gysylltiadau hir â gogledd Cymru ac Eryri gan iddo dreulio llawer o’i blentyndod yn Eryri ac Ynys Môn lle roedd ei nain a’i daid yn byw. Wedi graddio mewn daearyddiaeth a threulio nifer o flynyddoedd yn byw ac yn teithio dramor, ymgartrefodd yn y pen draw yn Llundain a gweithiodd am 27 mlynedd gyda Santander plc mewn amrywiol swyddi ym maes gweithrediadau marchnata a gwerthu.
Ers iddo symud i arfordir gogledd Cymru yn 2012 gyda’i deulu ifanc, bu’n awyddus i gefnogi a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a chyrff sydd o fudd i’r ardal leol a’i phobl. Bellach wedi ymddeol, mae’n mwynhau cerdded, gwylio adar a chaiacio môr ac mae’n helpu i hyfforddi tîm iau pêl-droed sir lleol. O ganlyniad, ei ddymuniad yw helpu i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn cael ei reoli i gynnal ei harddwch naturiol, yn ogystal â bod yn hygyrch mewn ffordd sy’n ysbrydoli pob cenhedlaeth, a’r genhedlaeth iau yn benodol.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk