Rory Francis

Cyfarwyddwr

“Efallai bod rhai ohonoch yn cofio fy mod i wedi gweithio i’r Gymdeithas fel Cyfarwyddwr am chwe mlynedd yn yr 1990au. Rydw i’n dal yn falch o’r gwaith wnes i efo’r Gymdeithas bryd hynny. Ers y cyfnod hwnnw, rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn arwain gwaith materion cyhoeddus a chyfathrebu i Goed Cadw yng Nghymru, gan weithio dros gadwraeth coedlannau Cymru.

Wrth gwrs, mae Cymdeithas Eryri wedi newid cryn dipyn ers 2000. Bellach, mae’n gorff dipyn mwy, a mwy gweithgar, nag yr oedd bryd hynny. Byddaf yn llenwi esgidiau enfawr John Harold sydd wedi cyflawni gwaith anhygoel efo’r Gymdeithas dros ddeng mlynedd. Hyd yn oed cyn i mi gychwyn yn ffurfiol yn y swydd, cefais y cyfle i gymryd rhan ym mhenwythnos ryfeddol MaD ac rydw i hefyd wedi bod allan yn ddiweddar gydag un o dimau Caru Eryri y Gymdeithas i gasglu sbwriel ar lwybr Llanberis i fyny’r Wyddfa. Roedd yr ymateb a gawsom gan y sawl oedd yn dod i lawr y mynydd yn wych.

Mae Eryri wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd. Symudais i’r ardal ym 1994 i weithio i’r Gymdeithas ac rydw i wedi aros yma byth ers hynny. Er i mi gael fy magu ym Mhenbedw, roeddwn yn cael fy nenu at ogledd Cymru a dysgais Gymraeg pan oeddwn yn fy arddegau ac yn gynnar yn fy ugeiniau. Rydw i wedi bod yn hynod ffodus i allu gweithio mewn swyddi sydd wedi cynnwys ymgyrchu i warchod a gwella’r amgylchedd naturiol yng Nghymru ers dros 30 mlynedd.

Yn fy amser hamdden, rydw i wrth fy modd yn cerdded yn y mynyddoedd, drwy goedlannau ac ar hyd afonydd a nentydd Eryri. Rydw i’n ffotograffydd brwd ac wrth fy modd yn beicio ar fy meic trydan. Tirlun a bywyd gwyllt yr ardal, yn ogystal â’r iaith a diwylliant Cymru, a’m denodd i’r ardal hon, ac rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at allu treulio fy oriau gwaith yn cydlynu ymdrechion y Gymdeithas i warchod a gwella amgylchedd naturiol Eryri.”