Ffoniwch ystafell de Pot Mêl i gadw lle ac oriau agor ar 07891732768 jmdavies63@yahoo.com
Mae Tŷ Hyll ar yr A5 rhwng Capel Curig a Betws y Coed, lle mae’r A5 yn croesi Afon Llugwy.
Tŷ Hyll, Capel Curig, Conwy
LL24 0DS
Rydym yn croesawu ymwelwyr yn cyrraedd Tŷ Hyll ar droed, ar gefn beic ac ar y bws. Gallwch gynllunio eich taith ar Traveline Cymru.
Mae raciau beiciau diogel ar gael yn ein maes parcio. Chwiliwch am siwrnai beic sy’n addas i chi ar cyclestreets.net
Mae Llwybr Marin, un o lwybrau beicio mynydd mwyaf adnabyddus yn ngogledd Cymru, chwarter milltir i ffwrdd. Taflen y Llwybr Marin.
Mae na lwybr cyhoeddus ar hyd glan Afon Llugwy o Fetws y Coed i Dŷ Hyll.
Gallwch fforio i’r ardal o gwmpas Tŷ Hyll drwy ddilyn Llwbrau Cerdded Tŷ Hyll.
Mae lleoliad Tŷ Hyll ar ffordd bws S2 Sherpa’r Wyddfa rhwng Llanberis/Capel Curig a Betws y Coed, â safle bws tu allan i’r tŷ.
Mae’r orsaf dren agosaf ym Metws y Coed, 5 milltir i ffwrdd.
Ni chodir tâl i ymweld â Thŷ Hyll, yr Ystafell Wenyn neu’r ardd, ond fel elusen gofrestredig rydym yn croesawu cyfraniadau at eu cynhaliaeth.
Gardd a choetir: ar agor bob dydd trwy’r dydd
Ffoniwch yr ystafell de i gadw lle ac amseroedd agor cyfredol.
Grwp o 8 neu ragor? Ffoniwch Tim ac Ayla Maddox ymlaen llaw i gadw bwrdd os ydych am fwyta yn yr ystafell dê:
07891732768. jmdavies63@yahoo.com
01286 685498
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk