Mae gardd bywyd gwyllt a choetir Tŷ Hyll yn cynnwys planhigion a ddewiswyd yn ofalus i ddenu adar a phryfed peillio megis gloÿnnod byw, gwyfynod, gwenyn a chacwn. Cânt eu rheoli’n annwyl ac yn organig gan wirfoddolwyr ymroddedig.
Mae rhwydwaith o lwybrau a meinciau yn caniatáu i chi fwynhau blodau’r ardd a natur y coetir, a gwelir golygfeydd o Afon Llugwy a Moel Siabod trwy’r coed. Gwrandewch ar gân yr adar a siffrwd mamaliaid bychan a phryfed yn yr isdyfiant. Gwyliwch am wybedog brith yn nythu yn y gwanwyn, ystlumod yn y cyfnos, a brogaod, madfallod y dŵr a gweision y neidr o amgylch y pwll bywyd gwyllt.
Crwydrwch o amgylch gardd a choetir Tŷ Hyll gan ddilyn ein map hardd. Lleolir ein cychod gwenyn yn y coetiroedd yn ddigon pell o’r llwybrau; gallwch weld y gwenyn prysur wrth eu gwaith ond gochelwch rhag amharu arnynt.
Mae’r ardd a’r coetir yn cael eu rheoli’n gariadus gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a mae croeso mawr i chi helpu.
Gallwch fforio i’r ardal o gwmpas Tŷ Hyll drwy ddilyn Llwybrau Cerdded Tŷ Hyll.
Mae Cymdeithas Eryri, a sefydlwyd ym 1967, yn elusen gofrestredig sy’n seiliedig ar aelodau sy’n gweithio i ddiogelu a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi nawr ac yn y dyfodol.
JOIN as a member to support our work.
The Snowdonia Society
Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
info@snowdonia-society.org.uk