Hanes Tŷ Hyll

Mae Tŷ Hyll yn llawn o hanes, chwedl a dirgelwch; does neb yn gwybod yn iawn pwy adeiladodd y tŷ, na phryd.

Yn ôl y chwedl, codwyd y tŷ dros nos yn y 15fed ganrif, fel ‘tŷ unnos’. Yn ôl traddodiad y cyfnod, byddai tŷ a godid yn ystod un noson ar dir comin, oedd â mwg yn dod o’i simne erbyn y wawr, yn gallu cael ei hawlio gan yr adeiladwyr fel eu heiddo eu hunain.

Yn ôl chwedlau eraill, fe’i codwyd gan reibwyr a lladron er mwyn manteisio ar deithwyr ar yr hen briffordd wrth iddyn nhw fynd heibio am Eryri – pobl ‘hyll’ a roddodd enw dychrynllyd o ddrwg i’r tŷ.

Efallai mai cartref i ladron oedd Tŷ Hyll yn y 15fed ganrif, ac efallai bod gweithwyr o Iwerddon wedi cael lloches yno wrth iddyn nhw godi pont Telford dros y Llugwy yn 1820. Ond does yr un ysgrifennwr am deithio yn sôn am Tŷ Hyll hyd 1853, felly mae’n bosib mai ffug adeilad o’r cyfnod Fictoraidd oedd o – atyniad rhamantus ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr ag Eryri.

Byddai wedi cymryd cryn ymdrech i symud y cerrig anferth a’u gosod yn eu lle. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd y gallu i symud cerrig mor anferth ar gael ymysg chwarelwyr Cymreig; roedden nhw’n eu gosod ar oleddf i rwystro glaw rhag dod i’r tŷ heb forter, ac yn cau tyllau yn y muriau trwchus gyda mwsogl i rwystro drafftiau.

Gwyliwch y ffilm British Pathe hwn o 1938 am Tŷ Hyll. Allwch chi weld y camgymeriadau?

Pam y tŷ ‘hyll’?

Mae rhai yn hawlio mai llygriad yw’r enw, Tŷ Hyll, o ‘Llugwy’, enw’r afon sy’n byrlymu heibio ar yr ochr arall o’r ffordd. Neu efallai mai’r cerrig mawr a garw sy’n rhoi’r enw i’r tŷ; mae’r gair ‘hyll’ yn y Gymraeg yn gallu bras neu arw, yn ogystal â hyll.

Pwy sydd wedi byw yn Tŷ Hyll?

Yr unigolyn cyntaf i fyw yma yr ydym yn gwybod amdano oedd y bugail lleol, John Roberts, yn 1900. O fewn y muriau cerrig trwchus byddai ei lety wedi bod yn sylfaenol: un ystafell fyw gyda’r aelwyd fawr ar gyfer gwres a choginio ac ysgol i fyny  groglofft i gysgu ynddi o dan y to.

Y bobl a fu’n byw yma hwyaf oedd y teulu Riley, o 1928 i 1861. Roedd Edward Riley yn gweithio yn ‘The Towers’ a saif uwchben ein maes parcio. Yn raddol, gwnaeth welliannau i Tŷ Hyll, gan osod ystafelloedd gwely ac ystafell ymolchi i fyny’r grisiau a pharlwr a chegin ar wahân ar y llawr isaf.

Arferai Edward a’i wraig Lilian groesawu ymwelwyr i’r tŷ dros y blynyddoedd, gan adrodd straeon iddyn nhw a dangos eu cocatŵ dof, gan gychwyn traddodiad hir sy’n parhau hyd heddiw gan eich bod yn ymwelydd eich hun!

Cyfnod newydd yng ngofal Cymdeithas Eryri

Wedi marwolaeth y teulu Riley, cafodd Tŷ Hyll nifer o berchnogion a fu’n ei gynnal fel ystafell de, siop hen bethau ac atyniad i ymwelwyr. Roedd bron iawn â mynd â’i ben iddo pan y’i prynwyd gan Gymdeithas Eryri yn 1988, ac adnewyddwyd yr adeilad rhestredig yn ofalus gan griw o wirfoddolwyr ymroddedig er mwyn darparu canolfan ymwelwyr fechan a phencadlys i’r Gymdeithas.

Yn 2010 symudodd Cymdeithas Eryri ei swyddfeydd i’r Caban ym Mrynrefail, ger Llanberis. O ganlyniad, adnewyddwyd Tŷ Hyll gan y Gymdeithas, a’i agor fel ystafell de ac arddangosfa gwenyn mêl yn 2012. Defnyddir yr ardd a’r goedlan fel adnodd addysgiadol, er budd peillwyr a bywyd gwyllt arall, gan ddarparu mwynhad i dros 35,000 o ymwelwyr lleol ac eraill sy’n galw heibio pob blwyddyn.

Lilian and Ted Riley

Lilian a Ted Riley

Allwch chi helpu i lenwi’r bylchau?

Os oes gennych unrhyw hen straeon neu luniau o Tŷ Hyll byddem yn falch iawn o’u clywed neu eu gweld. Neu os ydych yn hoff o chwilota yn yr archifau (llawer bellach ar gael ar-lein), fe allech helpu i daflu rhywfaint o oleuni ar orffennol Tŷ Hyll.

Cysylltwch â ni:

 01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk