
Eiriolaeth
Mae gan Gymdeithas Eryri hanes hir ac anrhydeddus o weithredu pan fo rhinweddau arbennig Eryri o dan fygythiad. Dros chwe degawd mae sawl achlysur pan fo cefnogaeth y Gymdeithas i fannau arbennig wedi ymddangos yn y penawdau. Er gwaethaf y ffaith nad ydy’r Gymdeithas yn fawr, fe all effaith ymgyrchu o’r fath fod yn sylweddol. Ar nifer o achlysuron bu iddo newid y canlyniadau yn Eryri, gan lywio gweithrediadau y llywodraeth – lleol a chenedlaethol – neu prif ddatblygiadau i gwrs newydd. Ar adegau fel hyn, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod gan ein aelodau lais effeithiol a chasgliadol. O ganlyniad i natur amrywiol ein haelodaeth mae angen sensitifrwydd a chyd-bwysedd i sicrhau hyn.
Ond nid yw ymgyrchoedd yn ddim ond rhan fach amlwg o’n gwaith eiriolaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn digwydd yn ddistaw bach y tu ôl i’r llenni. Mae casglu gwybodaeth, deall gwahanol bersbectif, ymateb i ymgynghoriadau a chreu perthnasau i gyd yn gosod seiliau adeiladol ar gyfer y mwyafrif o’n gwaith eiriolaeth. Mae gan waith fel hyn gysylltiad cryf â’n hymrwymiad dwfn i roi gwaith ymarferol ar waith mewn partneriaeth. Mae ein rhaglen waith ymarferol yn darparu cyfleoedd i bawb fod yn rhan o’r gwaith i warchod Eryri.
Rydym yn darparu dwylo diwyd ac yn llais cryf dros dirluniau arbennig Eryri. Ond, yn y pen draw, mae’r gwaith yn ymwneud â’r perthnasau sydd gan bobl gyda byd natur, tirlun a diwylliant Eryri.