Am Eryri

Eryri - enw atgofus sy'n dod â gweledigaethau o fynyddoedd rhamantus, wedi'u trwytho mewn chwedlau, tirwedd hardd, anghysbell a chysegredig
Ar fap mae Eryri yn ardal lle mae pobl yn byw a gweithio, gan ddisgwyl, yn gwbl briodol, yr un safonau byw a’r un cyfleusterau cyswllt â’r rhai sy’n dod i ddefnyddio Eryri fel man adloniant.
Daw pobl yn eu miloedd i Eryri gan hawlio mynediad dros y tir er mwynhad. Ond y mae twristiaid yn dwyn arian a ffyniant i Eryri. Y mae ar bobl Prydain angen Eryri’n ddihangfa, i geisio adnewyddiad, i ganfod heddwch. Oni ddylent hwythau gael llais yn y modd y caiff ei rheoli?
Dichon teimladau fynd yn frwd yn Eryri
A yw pobl yn wir yn ceisio deall eu gilydd? Pwy sy’n iawn? Pa beth sy’n iawn? Pa beth yw Eryri? A pha newidiadau a datblygiadau ellir eu goddef yn Eryri os yw i gadw’i hunaniaeth?

Mynyddoedd
Nid gwylltir naturiol o bell fordd yw’r copaon sy’ n gyfarwydd inni heddiw. Fe’i lluniwyd gan symudiadau cramen y ddaear, ac y mae amser a rhewlifoedd wedi gweithio arnynt. Filoedd o flynyddoedd yn ôl cymunodd dyn y cwrlid trwchus o goed gan ddechrau gadael ôl ei law ar wyneb y tir. Hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd, y mae’n amlwg heddiw hen lwybrau, corlannau a chaeau caeëdig eraill, mannau addoli, olion chwareli a chloddio mwynau, meini a llechi. Yn sgîl dynion, daeth yr angen am fwyd, a rheolaeth tir ar gyfer anifeiliaid domestig, a roddodd inni’r gorchudd presennol o weiriau a grug a rhedyn.
Yr odd y dulliau traddodiadol o gadw defaid yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o blanhigion, ond y mae’r newid ym mhatrymau ffermio’n peri fod hyn yn cael ei golli. Y mae miloedd o draed with drampio yn difrodir union fynyddoedd y mae pobl wedi dod yma i’w mwynhau.


Coedydd
Gweddillion olaf y coedydd hynafol a orchuddiai Eryri gynt yw’r coedydd naturiol sydd heddiw yn y dyffrynoedd ac ar lawr gwlad. O ddiffyg eu hadnewyddu, y mae llawer o’r coedydd hyn a fu’n cynnal amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid gwerthfawr, mewn perygl o ddarfod. Y mae’r awdurdodau lleol yn gwneud gwaith da i hybu adfywio ac ymestyn y coedydd llydanddail presennol.
Nodwedd fodern yw planhigfeydd o goedwigaeth yn Eryri, wedi eu plannu o fewn y ganrif ddiwethaf heb fawr o ystyriaeth i’w heffaith niweidiol ar y tirlun. Y mae llinellauunionsyth ffiniau’r coedwigoedd a phlannu blociau o goed o un rhywogaeth wedi cyflwyno dimensiwn newydd a dieithr i dirlun a oedd gynt yn amrywiol a gwasgaredig wedi ei lunio o elfennau a geid yn naturiol gerllaw.
Erbyn hyn y mae llawer o waith ar droed i wneud iawn am y niwed i’r tirwedd a wnaed gan blanhigfeydd coedwigaeth. Wrth i’r planhigfeydd hyn ddod i’w hoed, ychwanegant eu hatyniad unigryw eu hunain gan dyfu’n goed urddasol aeddfed sy’n cynnal amrywiaeth o blanhigiom ac anifeiliaid.
Dŵr
Y mae cylch y dr o’r mynydd i’r môr ac yn ôl i’r mynydd drachefn
yn amlwg iawn yn Eryri. Y mae nentydd a llynnoedd y mynydd,
yr afonydd a’r Ilynnoedd yn y bryniau is ac ar lawr gwlad hyd yr
arfordir, ynghyd â‘r cymylau, y niwl, y glaw a’r eira’n
gorwedd ar y mynyddoedd, oll yn rhan o’r cylch hwn sy’n cynnal
bywyd.
Dyma’r amlycaf o nodweddion naturiol Eryri: ychydig a ddichon
dyn ei wneud i withsefyll yr elfennau, a llifa’r dŵr heddiw megis y
gwnaeth ers miloedd o flynyddoedd. Cerfiwyd cyfuchliniau’r
mynyddoedd gan ddŵrr wedi rhewi ar ei daith o fewn yr un cylch
hwn, a gwaddod y dŵrr yw’r pridd ar cerrig ar loriau’r dyffrynoedd.
Y mae glannau afonydd yn aml yn gynefinoedd i rywogaethau o
blanhigion ac anifeiliaid na ddichon fyw yn unman arall. Y mae
amrywiaeth o lawer math o fywyd yn cael lloches yn y llynnoedd
a’r afonydd hwythau, ond yma eto y mae ôl llaw ddinistriol
dynion: y mae llygredd, glaw asid yn aml, yn difrodi bywyd gwyllt
y dŵr; a gellir gweld effaith ffisegol argacau, cronfeydd dŵr,
ffosydd gwneud, a chynhyrchu pŵer.
Y mae dŵr Eryri’n cyflenwi dŵr yfed i bobl mor bell â Lerpwl
a Manceinion, yn cynnal bywyd gwyllt Eryri, yn chwaraele i
bysgotwyr a dilynwyr selog chwaracon dŵr, yn cynnal bywoliaeth
amaethwyr, ac yn ffynhonnell o ynni yma ac acw. Y mae dŵr yn
nodwedd annatod o’r tirwedd ac yn ased gwerthfawr sy’n weladwy
o bron bob man yn Eryri.

Y mae dŵr yn elfen yn y profiad o dirlun Eryri. Swn dŵr yn Ilifo, teimlo’r glaw, y niwloedd, effeithiau ysblennydd y cymylau, Ileithder yr awyr, y mynyddoedd wedi rhewi dan eira, a’r gwlith ar fore o haf: y maent oll yn rhan o Eryri, a dŵr ydynt oll.
"Pa faint o newid a ddichon Eryri ei goddef a chadw ein naturioldeb?" Dyma'n her!
O ddwyn ynghyd nodweddion Eryri ffurfiant dirwedd ddiwylliannol nodweddiadol sy’n arddangos unoliaeth weledol a gweithredol.
Dulliau traddodiadol o ffermio ac economi wledig sydd wedi
Ilunio’r panoramâu a adwaenom ac a garwn. Y mae’r tyfiant mynyddig, y patrymau o gaeau bychain, y cloddiau cerrig a’r adeiladau a’r lonydd o gwmpas y ffermydd yn rhoi ymdeimlad o unoliaeth boddhaus sy’n cyflewni prydferthwch ffisegol y nodweddion natur-iol unigol.
Perthyn y nodweddion hyn i ffordd o fyw sy’n cilio. Ni fynn pobl Eryri farw gyda’r hen ddulliau. Y mae’n iawn iddynt geisio safon byw sy’n gydnaws â gweddill y byd.
Tuedd polisiau cynllunio yw hybu datblygiad. Adeiladau newydd, diwydiannau, ffensys a ffyrdd yw’r ateb a gynigir yn aml. Os mai defnyddiau estron sy’n codi’r rhain, ac os gorfodir hwy ar dirwedd yn hytrach na’u gweithio’n ofalus i mewn i amlinell naturiol, y maent yn newid y dirwedd bron y tu hwnt i bob dirnad. Y mae’n bwysig gofalu bod datblygu yn cymeryd lle mewn modd y gall y tirwedd ei oddef. Trwy arfer technegau a defnyddiau traddodiadol a thrwy leoli gofalus y gwneir hynny. A dichon dulliau o’r fath hybu sgiliau a chyflogaeth leol yn ogystal â bod yn foddion addas i ddatblygiad â newid.
Y mae technegau modern o asesu tirweddau yn gymorth i ganfod pa dirweddau all ddygymod â newid.